Croeso i Tribiwnlys Prisio Cymru

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn dribiwnlys annibynnol. Ein swyddogaeth yw ymdrin ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu awdurdodau bilio mewn perthynas ag Ardrethi Annomestig, Treth y Cyngor a threthi lleol eraill.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn delio ag anghydfodau sy'n ymwneud รข:

...
Busnes (Ardrethi Annomestig)

Os ydych yn credu bod gwerth ardrethol eich eiddo ar gyfer ardrethi busnes yn anghywir, dylech gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn gyntaf cyn cysylltu รข'r Tribiwnlys Prisio. Mae'r VOA yn pennu lefel y gwerth y mae biliau yn seiliedig arno; Ac felly, dylid rhoi cyfle iddyn nhw edrych ar y mater cyn ei godi gyda ni.

Mwy o wybodaeth »
...
Bandio Treth Cyngor

Os credwch fod band eich eiddo ar gyfer Treth Gyngor yn anghywir, dylech gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) yn gyntaf cyn cysylltu รข'r Tribiwnlys Prisio. Mae'r ASB yn pennu lefel y gwerth y mae biliau'n seiliedig arno; ac felly, dylent gael cyfle i edrych ar y mater cyn ei godi gyda ni.

Mwy o wybodaeth »
...
Bilio Treth Gyngor

Gallwch apelio i'r Tribiwnlys Prisio os ydych yn credu fod swm y Dreth Gyngor mae eich Cyngor yn ei godi arnoch yn anghywir, neu na ddylid codi tรขl o gwbl. Fodd bynnag, dim ond ar รดl i chi ysgrifennu at y Cyngor ynglyn รข'r mater y gallwch wneud hynny.

Mwy o wybodaeth »

Newidiadau i apรชl ardrethi busnes yng Nghymru

Newidiodd y ffordd i apelio gwerth ardrethol eich eiddo ar 1 Ebrill 2023. Gwyliwch ein fideo isod am fanylion.


Ein cefndir

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru (TPC) yn gwrando ac yn gwneud penderfyniadau ar apeliadau am benderfyniadau a wnaed gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu gynghorau lleol ar Ardrethi Annomestig a threthi lleol eraill.

Mae TPC yn dribiwnlys annibynnol. Mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ond mae ei haelodau a'i phenderfyniadau yn gwbl annibynnol ar y llywodraeth, a phob corff arall.

Darperir gwybodaeth ystadegol a chyfrif blynyddol o weithgareddau yn yr adroddiad blynyddol.

Darganfyddwch fwy »

Cysylltu รข ni

Cysylltwch รข ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano.

Cysylltu รข ni »