Bandio Treth Gyngor
Os credwch fod band eich eiddo ar gyfer Treth Gyngor yn anghywir, dylech gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) yn gyntaf cyn cysylltu Ăą'r Tribiwnlys Prisio. Mae'r ASB yn pennu lefel y gwerth y mae biliau'n seiliedig arno; ac felly, dylent gael cyfle i edrych ar y mater cyn ei godi gyda ni. Gallwch ddarganfod sut i gysylltu Ăą'r ASB trwy eu prif dudalen we:
Valuation Office Agency - GOV.UK (www.gov.uk)
Mae gan yr ASB ddyletswydd i sicrhau bod y band cywir yn cael ei roi ar eich eiddo. Os cĂąnt eu perswadio gan yr hyn a ddywedwch, byddant yn newid y gwerth - ni waeth pryd y byddwch yn cysylltu Ăą nhw neu am ba mor hir yr ydych wedi byw yn yr eiddo neu fod yn berchen arno. Fodd bynnag, os na fyddant yn derbyn yr hyn a ddywedwch a'ch bod am fynd Ăą'r mater ymhellach, mae cyfyngiadau amser yn berthnasol pan allwch wneud "cynnig ysgrifenedig ffurfiol i newid y rhestr brisio". Gallwch wneud hynny o fewn chwe mis i ddod yn dalwr ardrethi ar gyfer yr eiddo neu o fewn chwe mis i'r ASB newid gwerth yr eiddo (os nad ydych yn cytuno Ăą'r newid hwnnw).
Os oes cynnig ffurfiol dilys wedi'i wneud, mae gan yr ASB gyfnod o amser i geisio datrys y mater cyn y bydd yn ofynnol iddynt ei anfon at y Tribiwnlys Prisio i'w ystyried. Nid oes rhaid i chi apelio'n uniongyrchol i'r Tribiwnlys Prisio; mae'r atgyfeiriad atom yn digwydd yn awtomatig os na fydd yr ASB yn datrys y mater o fewn yr amser penodedig.
Pan fyddwn yn derbyn yr apĂȘl, byddwn yn anfon llythyr atoch yn dweud wrthych ei fod wedi'i anfon atom. Bydd y llythyr yn eich cyfeirio at ganllawiau ar y wefan hon o ran sut y byddwn yn datblygu materion.
Nid ydym yn rhestru apelau ar unwaith i'w gwrando. Mae llawer o achosion yn dal i gael eu datrys gan yr ASB; dim ond ychydig o amser ychwanegol sydd ei angen arnynt. Hefyd, oherwydd bod yn rhaid i ni roi isafswm cyfnod rhybudd o bedair wythnos i bob parti cyn y gellir cynnal gwrandawiad mewn gwirionedd, mae ein rhaglen o gyfarfodydd wedi'i chynllunio o leiaf ddau fis ymlaen llaw. Felly gall fod yn dri neu bedwar mis neu fwy cyn i'ch apĂȘl gael ei rhestru ar gyfer gwrandawiad.
Edrychwch ar ein tudalennau Nodiadau Canllaw a Chwestiynau Cyffredin am ragor o wybodaeth ddefnyddiol.